P-05-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021, Gohebiaeth – Deisebwyr at y Pwyllgor, 14.12.21

 

DEISEB P-06-1228

Talu bonws athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

 

·         I ymateb i eiriau Jeremy Miles AS Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr at Jack Sargeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau ar Dachwedd 18fed 2021 bod "canllawiau manwl, darparu deunydd a thempledi dysgu proffesiynol'', roedd y ddarpariaeth yma yn sicr ar gael ond fy nadl i yw bu'n rhaid i athrawon a darlithwyr ddefnyddio eu hamser prin eu hunain tu fas i oriau gwaith i ymgyfarwyddo gyda'r holl ddogfennaeth. Nid oedd yr Hyfforddiant Mewn Swydd yn ddigonol o ran amser.

 

·         Er bod asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol wedi eu dileu yn swyddogol mewn egwyddor yn ôl y Gweinidog, er mwyn monitro cynnydd disgyblion yn rheolaidd ac adrodd i rieni ac Estyn (trefnwyd ymweliad gan Estyn i fy nghanolfan i yn yr haf)  roedd dal disgwyl i athrawon asesu dysgwyr yn answyddogol, e.e CA3, ar yr un pryd â phennu graddau canolfan ar gyfer CA4 a 5. Roedd y pwysau gwaith yn erchyll.

 

·         Yn ôl y Gweinidog  roedd y ''model graddau a'r broses apêl yn galluogi athrawon i wneud y rhan helaeth o'r gwaith yn ystod y tymor''. Bu hyn yn achosi llawer o bwysau ychwanegol mewn cyfnod byr gyda nifer fawr o gyfarfodydd ychwanegol ar ôl ysgol i gyd-safoni, cymedroli a thrafod graddau gyda'r adran, Rheolwr Llinell a'r Uwch Dîm Arwain, yn ddi-dâl.  Sylwch ar y geiriau '' y rhan helaeth'' sy'n golygu bod llawer o staff wedi gorfod gwneud rhywfaint o'r gwaith yma tu allan i'r tymor/yn eu gwyliau, eto yn ddi-dâl.  Pa broffesiwn arall sy'n cael eu llwytho gyda gwaith ychwanegol am ddim tâl ychwanegol?

 

·         Sonnir y Gweinidog bod £9.6 miliwn wedi mynd at ganolfannau a bod ''hyblygrwydd' ganddynt ''er mwyn helpu ymarferwyr i ymwneud â dysgu proffesiynol'' a ''cefnogi lles staff''.  Ni chafodd yr arian yma ei rhaedru  yn ddigonol er mwyn cefnogi staff. Yn fy nghanolfan i defnyddiwyd y cyllid er mwyn rhyddhau staff i baratoi, marcio a safoni'r asesiadau. Roedd hyn yn broblem oherwydd prinder athrawon cyflenwi ac ond yn ychwanegu at faich gwaith gan fod staff yn gorfod paratoi a gadael gwaith pwrpasol addas ar gyfer eu dosbarthiadau.  Yn bersonol, er fy mod i fel Pennaeth Adran yn gyfrifol am TGAU, UG a Lefel A, yn ystod yr holl broses ges i ond un awr rhydd oddi ar fy amserlen i gwrdd ag aelod arall o'r adran er mwyn cyd-safoni.  Yn yr awr honno, ffoniodd y swyddfa i ofyn i fi fynd at un o'r dosbarthiadau gan fod yr athro cyflenwi wedi mynegi pryder bod y plant yn rhy swnllyd. Gwrthodais achos roedd yr awr brin yna mor hanfodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Yn y bôn felly roedd athrawon uwchradd yn gwneud DWY swydd oleiaf - swydd yr athro a swydd yr arholwr/swyddog pwnc CBAC, yn ddi-dâl, yn ogystal â gofalu am les meddyliol dysgwyr yn ystod y pandemig a gorfod wynebu baich dysgu cyfunol yn y dosbarth ac arlein i ddisgyblion absennol. Cafwyd staff NHS fonws gan Lywodraeth Cymru am eu hymdrechion ac ymroddiad yn yr un cyfnod, gyda nifer o'r staff yma yn cuddio oddiwrth y cyhoedd, gan gynnwys nifer o feddygon teulu. Roedd holl weithwyr CBAC hefyd adref yn gweithio, lle maen nhw o hyd heddiw sy'n rhoi halen ar y briw.

 

·         Gwerthfawrogwyd athrawon Yr Alban gan eu llywodraeth - oni ddylai Llywodraeth Cymru dalu yr un deyrnged i athrawon Cymru?

 

·         Mae nifer o athrawon yn ddiweddar wedi  cymryd rhan mewn arolwg annibynnol ar ran Cymwysterau Cymru am y cyfnod Pennu Graddau, gan fy nghynnwys i. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad beirniadol yma yn fuan.

 

·         Rydyn ni fel athrawon ( a dysgwyr) yn anffodus yn wynebu yr un sefyllfa a phwysau eleni eto, mewn limbo llwyr, 'Dydy'r gwaith/asesiad yma ddim yn cyfri tuag at y gradd terfynol ond FE ALLAI'.  Mae pwysau y tymor yma wedi bod yn ofnadwy a mae lles athrawon yn dioddef. Rydw i wedi gweld athrawon profiadol pwyllog yn llefain dan y straen ac eisiau gadael eu swyddi. Byddai bonws fel un Yr Alban yn dangos arwydd o werthfawrogiad a pharch tuag at y proffesiwn eithriadol o weithgar yma.

 

 

 

Diolch yn fawr.